Caneuon Cymraeg newydd gan Adjua ac Aisha Kigs

Ar ddechrau mis Gorffennaf mae dwy gân Gymraeg newydd yn cael eu rhyddhau gan yr artistiaid addawol o Gymru, ADJUA ac Aisha Kigs.

Bydd y caneuon yn cael eu rhyddhau ar label Sionci Tŷ Cerdd, sef label dan arweiniad artistiaid. 

Mae’r ddwy sengl yn cyhoeddi pennod newydd i AffriCerdd – sef partneriaeth rhwng Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi artistiaid o liw i ryddhau yn y Gymraeg.

Crëwyd y caneuon yn wreiddiol gan y ddau artist ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023 fel rhan o fenter Tŷ Cerdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r nod i gefnogi cerddorion o liw greu caneuon newydd yn yr iaith Gymraeg. Tyfodd y prosiect o ymrwymiad y ddau sefydliad i gefnogi crewyr cerddoriaeth o bob cefndir i greu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd ADJUA ac Aisha eu mentora drwy’r broses gan yr artistiaid blaenllaw, Eädyth ac Aleighcia Scott – a oedd hefyd wedi perfformio yng nghyngerdd clo’r prosiect ar lwyfan Encore yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan y llynedd. 

Gweithiodd Eädyth gyda’r artistiaid (gan fod y ddwy ar ddechrau eu taith yn canu drwy gyfrwng y Gymraeg) gan fynd ati i fagu eu hyder wrth ysgrifennu a pherfformio yn y Gymraeg – gyda chefnogaeth Aleighcia Scott, a hithau yn siaradwr Cymraeg newydd.

Dechreuodd y fenter yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen (o dan y teitl CoDi Cân bryd hynny) pan gefnogwyd pump artist o liw i ysgrifennu caneuon Cymraeg newydd, a chreu eu fideos cerddoriaeth eu hunain – wedi’u mentora gan Lily Beau, Tumi Williams a Jonny Reed.

Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2024 – a bellach o dan ymbarél AffriCerdd. Eleni bydd Eädyth yn mentora’r artistiaid, Asha Jane a Frances Bolley, i greu caneuon newydd, a byddant yn cael eu perfformio ar lwyfan Encore am 12:00 ddydd Iau 8 Awst – law yn llaw ag ADJUA ac Aisha Kigs.

Mae’r gyntaf o’r ddwy gân, ‘Hiraeth’ gan ADJUA, allan ers dydd Gwener diwethaf, 5 Gorffennaf, gyda’r ail sengl, ‘Llygaid Cudd’ gan Aisha Kigs, i ddilyn ddydd Gwener nesaf 12 Gorffennaf.

Dyma berfformiad Adjua o ‘Hiraeth’ ar gyfer y rhaglen Curadur ychydig fisoedd yn ôl:

Llun: Aisha Kigs