Mae Gŵyl Llanuwchllyn ger Y Bala wedi cyhoeddi manylion cyntaf lein-yp eu gig nos eleni.
Cynhelir yr ŵyl ym mhentref Llanuwchllyn ar 24 Awst.
Datgelwyd wythnos diwethaf mai Bwncath a Cowbois Rhos Botwnnog fydd prif artistiaid yr ŵyl y tro hwn, ac mae enwau pellach i’w cyhoeddi’n fuan.
Mae tocynnau’r gig nos ar werth nawr.