Mae Ynys, y grŵp sy’n cael ei arwain gan y cerddor profiadol o Aberystwth Dylan Hughes, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs byw yn yr hydref eleni.
Wrth i’r band ryddhau eu halbwm newydd, ‘Dosbarth Nos’, maent wedi datgelu taith 8 dyddiad fydd yn ymweld â lleoliadau yng Nghymru a Lloegr dros fisoedd Medi, Hydref a Tachwedd eleni. B
ydd y gyfres o gigs yn dechrau yn Cwrw, Caerfyrddin ar 6 Medi ac yn gorffen yn Le Pub, Casnewydd ar 30 Tachwedd.
Bydd y daith yn gweld Ynys yn perfformio yn Llundain a Leeds ynghyd â lleoliadau amrywiol yng Nghymru.
Dyddiadau taith hydref Ynys:
6 Medi – Cwrw, Caerfyrddin
13 Medi – Porters, Caerdydd
14 Medi – Hyde Park Book Club, Leeds
21 Medi – Elysium, Abertawe
28 Medi – Yr Hen Lys, Caernarfon
4 Hydref – New Cross Inn, Llundain
5 Hydref – Y Cŵps, Aberystwyth
30 Tachwedd – Le Pub, Casnewydd