‘1992’ – rhyddhau sengl newydd gan Diffiniad

Mae’r band dawns a ffurfiodd yn wreiddiol yn yr Wyddgrug ar ddechrau’r 1990au, Diffiniad, wedi dychwelyd gyda sengl newydd. 

‘1992’ ydy enw’r trac diddweddaraf gan Diffiniad sydd allan ers dydd Gwener 15 Tachwedd. 

Yn adleisio synnau, curiadau a chyffro’r cyfnod Rave – heb anghofio’r pianos, wrth gwrs – mae Diffiniad yn ôl gyda’u sengl newydd ‘1992’, neu “Mil naw naw deg dau” yn ôl lleisydd y trac ei hun, Iestyn Davies.

Mae gan y flwyddyn 1992 le arbennig yng nghalon Diffiniad. 

Dyma’r flwyddyn pan ryddhaodd Diffiniad eu casét cyntaf, ‘DI’, ar label Ankst a oedd yn cynnwys y gân a aeth ymlaen i fod yn un o anthemau niferus y band, ‘Hapus’. 

Dyma’r flwyddyn pan ymunodd prif leisydd y band Bethan Richards â’r “pedwar poptastig o Glwyd” (dyfyniad go iawn o’r cyfnod mae’n debyg). 

A dyma hefyd y flwyddyn pan ddechreuodd y band gigio, er ar y pryd, roedd y nosweithiau hyn yn ymdebygu’n agosach at brofiadau clwb nos yn hytrach na gigs gitar-aidd arferol yr ‘SRG’. 

Mae atgofion y dyddiau cynnar hynny wedi’u dal a’u rhoi ar gof a chadw yn y trac newydd hwn, gydag awyrgylch, ysbryd y cyfnod ac iwfforia’r llawr dawns yn llifo’n ôl mewn ychydig dros dair munud.

Yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd eu senglau diweddar, gan gynnwys ‘Seren Wib’, ‘Aur’ a ‘Peryglus’, mae ‘1992’ yn profi unwaith eto bod Diffiniad wedi hawlio eu lle fel un o grwpiau pwysicaf y byd pop Cymraeg dros y 30 mlynedd diwethaf.

Mae ‘1992’ allan nawr ar yr holl lwyfannau digidol arferol.

Gadael Ymateb