Wedi cyfnod hynod o brysur ers i’w halbwm cyntaf, Mae ’na Olau, gipio gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn y llynedd, mae Pedair wedi rhyddhau ei hail albwm.
Dadeni ydy enw’r record hir newydd fydd allan ar label Recordiau Sain.
Pedair ydy Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym ac maent yn edrych ymlaen at gael rhannu caneuon newydd sbon, ac at gyfnod cyffrous arall yn hanes y grŵp sydd wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Daeth Pedair, gyda’u harmonïau ysgubol, eu hymdriniaeth grefftus â’n traddodiad ac agosatrwydd eu caneuon, yn ffynhonnell cysur a gobaith yng nghyfnod dyrys y clo, a bu eu perfformiadau byw niferus dros y blynyddoedd diwethaf yn tystio i’w poblogrwydd cynyddol. Wrth i’r cyfeillgarwch rhyngddynt gryfhau, dwysáu hefyd wnaeth y cwlwm a’r ddealltwriaeth sy’n hanfodol wrth gydweithio a chyd-berfformio.
Mae hynny bellach wedi dwyn ffrwyth mewn casgliad o ganeuon newydd sy’n adlewyrchiad o daith bywyd y misoedd a fu. Machlud a gwawr, haul ac awel, dŵr, halen a thân… dyma rai o’r elfennau fu’n ffrwtian yn y pair ers rhyddhau’r albwm cyntaf.
‘Chwedl-ganwyr y traddodiad gwerin’
Mae Dadeni yn arddangos cryfderau’r pedair fel chwedl-ganwyr y traddodiad gwerin tra ar yr un pryd yn amlygu eu doniau fel cantorion-gyfansoddwyr. Mae’n mynd ar daith, o gân i gân, o ddyfnderoedd tywyll yr enaid i lawenydd brig y don, o’r tywyllwch i’r goleuni, o ddoe ymlaen at heddiw ac yfory.
Mae’r casgliad yn cynnwys caneuon gwreiddiol gan Gwenan Gibbard, sy’n prysur fagu hyder fel cyfansoddwraig – mae ‘Y Môr’ a ‘Rho dy Alaw’ yn ddwy gân ddirdynnol, llawn gobaith, am ganfod nerth a llawenydd yng nghanol heriau bywyd.
Mae tawelwch myfyrgar ‘Machlud a Gwawr’ gan Meinir Gwilym yn wrthbwynt trawiadol i’w hanthem gignoeth ‘Dos â Hi Adra’, sy’n cael ei gyrru gan ddrymio medrus Osian Huw Williams a gitâr fas Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) – a gynhyrchodd yr albwm ar y cŷd â Pedair.
Tri cherddor arall sy’n ymddangos ar y casgliad ydi Gwilym Bowen Rhys, Patrick Rimes a Gwern ap Gwyn, y tri yn ychwanegu haenau newydd i sain y grŵp, sy’n parhau i fod â’i wreiddiau yn y traddodiad gwerin.
Ceir trefniant unigryw Siân James o gân allan o gasgliad Y Fonesig Ruth Herbert Lewis – ‘O Blwy’ Llanrwst’. Cyd-ysgrifennodd Siân a Gwyneth Glyn ‘Golomen Wen’, cân amserol ond oesol sy’n dyheu am i ni bobol y byd ddysgu cyd-fyw yn heddychlon â’n gilydd.
Dywed y band mai anrhydedd arbennig hefyd ydi cael cynnwys fersiwn o ‘Dŵr, Halen a Thân’ – cân sydd mor enigmatig ac unigryw â’r athrylith â’i cyfansoddodd hi – sef yr annwyl Dewi ‘Pws’ Morris. Mae’r thema o golled a galar yn gwau drwy’r casgliad hwn, ac yn cyrraedd penllanw yn y trac clo grymus ‘Cerrig Mân’ a gyfansoddwyd gan Gwyneth Glyn.
Mae’r albwm, Dadeni, wedi’i ryddhau ar CD ac yn ddigidol ers dydd Gwener 22 Tachwedd.
Dyma ‘Rŵan Hyn’ o’r casgliad newydd: