Mae’r band o Felinheli, Achlysurol, wedi rhyddhau eu cynnyrch swmpus cyntaf ers ymuno â label Recordiau Côsh.
A hwythau wedi dychwelyd i Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth ers ymuno â’r label maent bellach wedi rhoi EP at ei gilydd i ddathlu eu gweithgarwch diweddar.
Ynghyd â’r senglau diweddar maent wedi eu rhyddhau ar Côsh, sef ‘Llwyd ap Iwan’ a’r teitl drac ‘Llwybr Arfordir’, mae Achlysurol yn cynnig y trac newydd ‘Môr o Aur’ ac ailgymysgiad gan Crwban o un o’r traciau mwyaf poblogaidd y band, ‘Efo Chdi’.
Mae’r band yn parhau i fod yn un o rai mwyaf gweithgar Cymru, yn gigio’n rheolaidd ac yn diddanu cynulleidfaoedd gyda’u cerddoriaeth heintus a hwyl.
Mae’r EP ‘Llwybr Arfordir’ allan ers dydd Gwener diwethaf, 15 Tachwedd.