Adwaith yn cyhoeddi cyfes fer o gigs Chwefror

Mae un o fandiau prysura’ Cymru, Adwaith, wedi cyhoeddi manylion cyfres fer o gigs yng ngogledd Lloegr a’r Alban ym mis Chwefror 2025.

Rhwng 25 a 27 Chwefror bydd y triawd o Gaerfyrddin yn perfformio yn Newcastle, Glasgow a Chaeredin. 

Dyma fanylion llawn y gigs:

25 Chwefror – Cluny 2, Newcastle

26 Chwefror – Nice N Sleazy, Glasgow

27 Chwefror – Sneaky Pete’s, Caeredin 

 

Gadael Ymateb