Adwaith a Melin Melyn i berfformio yng Ffrinj Llangollen

Cynhelir Gŵyl Ffrinj Llangollen rhwng 5 a 13 Gorffennaf eleni, gydag amrywiaeth o sioeau cerddoriaeth, comedi, dawns a gweithdai.

Bydd y digwyddiadau eleni’n cynnwys gig arbennig ar nos Wener 12 Gorffennaf lle bydd y bandiau Adwaith a Melin Melyn yn rhannu’r dyletswyddau ‘headlinio’.

Mae’r ddau fand wedi cael cyfnod llwyddiannus iawn ac yn cael eu cyfri ymysg bandiau mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, a bydd cyfle i’w gweld yn rhannu llwyfan Neuadd y Dref Llangollen ar nos Wener yr ŵyl. 

Ymysg uchafbwyntiau eraill yr ŵyl eleni hefyd fydd gig gan Band Pres Llareggub ar nos Sadwrn 6 Gorffennaf, unwaith eto yn Neuadd y Dref. 

Mae tocynnau digwyddiadau’r ŵyl ar werth nawr ar eu gwefan.