Yr Anghysur – band sy’n caru eu Milltir Sgwâr

Mae band newydd sydd a’u gwreiddiau’n ddwfn yn Nyffryn Conwy wedi rhyddhau eu trydedd sengl. 

‘Milltir Sgwâr’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan Yr Anghysur – band sy’n cynnwys criw o gerddorion ifanc, ac un fu’n aelod o fand amlwg iawn yn y gorffennol.  

Ffurfiwyd Yr Anghysur yn 2022 gan y brodyr Hedd ac Aran Fôn, Sam Roberts ac un Mark Kendall, sef drymiwr band enwocaf Dyffryn Conwy, Y Cyrff.

Chwaraeodd y band eu gig cyntaf yn fuan wedyn gan gefnogi  Dafydd Iwan yng ngŵyl Llanast Llanrwst. Yn ddiweddar, mae Osian Glyn wedi ymuno fel pumed aelod o’r grŵp. 

“‘Dani wedi chwarae ddipyn o gigs dros y blynyddoedd diwethaf gan chwarae rhan mewn cyfrannu at y sîn leol yn Nyffryn Conwy gyda digwyddiadau fel Llanast Llanrwst a wedi cynnal dipyn o gigiau ein hunain yn Clwb Llanrwst a Clwb Rygbi Nant Conwy” eglura Hedd Fôn. 

Canu am eu Milltir Sgwâr

Daw ‘Milltir Sgwâr’ fel dilyniant i ddwy sengl gyntaf y band sef ‘Byd Ar Ben i Lawr’ a ryddhawyd yn Ebrill 2023 a ‘Cofia i’ a ryddhawyd yn fuan wedyn ym mis Gorffennaf llynedd. 

Mae’r ‘Cofia i’ yn trafod tyfu i fyny yn eu hardal leol, ac fel mae enw’r sengl newydd yn ei awgrymu, thema debyg sydd i ‘Milltir Sgwâr’ hefyd. 

‘Mae’r sengl diwaddara yn sôn am Llanrwst ei hun” meddai Hedd. 

“Ysgrifennais i Milltir Sgwar 2 neu 3 blynedd yn ôl, hwn oedd un o’r caneuon cyntaf ar yr albwm sydd i ddod yn fuan, cafodd y gân ei rhoi on the back burner am dipyn gan mod i’n stryglo gorffan hi yn iawn. 

“Penderfynais i orffan hi yn ddiweddar a rydym wedi bod yn chwara hi’n fyw ers diwedd flwyddyn ddwytha.

“Mae’r gân yn sôn am Lanrwst, neu mewn gwirionedd unrhyw dref leol yn Nyffryn Conwy, o’m persbectif i.

“Mae Llanrwst wedi bod yn le arbennig iawn i mi dros y blynyddoedd diwethaf. Wrth dyfu i fyny yn Eglwysbach, Llanrwst oedd y dref agosaf ag yn fano oedd yr ysgol. Yn naturiol trwy fy arddegau byddwn yn treulio llawer o amser yn Llanrwst ac erbyn hyn rwy’n byw yma.”

Hanes cerddoriaeth yn ysbrydoli

Mae gan Lanrwst gysylltiadau agos gyda’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac mae hynny wedi dylanwadu ar y trac yn ôl Hedd. 

“Mae’r gân yn canolbwyntio ar fy marn i ar Lanrwst a’i chymuned, sîn gerddoriaeth a hanes. Wrth gymryd llawer o ysbrydoliaeth gan Y Cyrff yn fy ysgrifennu, gan fod ‘Cymru Lloegr a Llanrwst’ yn gymaint o anthem yn fy arddegau a dal yn rŵan.

“Mae’r gytgan yn newid cwrs ychydig i gyfleu pwysigrwydd y bobl sy’n gweithio ac yn byw yma a nid dim ond ‘playground’ i dwristiaid ydy fa’ma.”

Recordiwyd y sengl yn TAPE Community Music and Film yn Hen Golwyn gyda Aled Clark a Hedd ei hun yn beirianwyr sain. Cyfansoddwyd a recordiwyd yr utgyrn a’r sacs ar y trac gan Edwin Humphreys.

Yn ôl Hedd, y cynlluniau ar gyfer y band dros y misoedd nesaf yw parhau i gigio ac ail-greu ar gyfer eu halbwm newydd ‘Er Gwaetha Pob Dim’.

Maent yn gobeithio bydd yr albwm yn barod i’w ryddhau erbyn diwedd y flwyddyn. Yn y cyfamser maent hefyd yn gobeithio recordio a rhyddhau fersiwn arbennig o un o ganeuon yr albwm, a chyhoeddi fideo i gyd-fynd â hon.

Mae’r band wedi cyhoeddi fideo arbennig ar gyfer y sengl: