‘Mewn Twll’ yn damaid i aros pryd gan Rhys Llwyd Jones

Mae’r cerddor profiadol Rhys Llwyd Jones wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf wrth iddo baratoi i gyhoeddi ei record hir nesaf. 

‘Mewn Twll’ ydy enw’r trac newydd sydd allan yn ddigidol, a dyma’r ail sengl iddo ryddhau o’i albwm nesaf, ‘Creithiau’. 

Canwr gyfansoddwr o Gaerdydd ydy Rhys Llwyd Jones, ac mae’n gyfarwydd hefyd fel aelod o’r band Art Bandini.

‘Creithiau’ fydd chweched albwm Rhys, ond y cyntaf iddo ryddhau sy’n uniaith Gymraeg meddai. 

Mae’r sengl wedi’i gynhyrchu gan gerddor cyfarwydd iawn arall o’r Brifddinas, sef Sion Russell Jones sydd wedi bod yn fywiog yn ddiweddar gyda’r band Angel Hotel. 

“Dyma’r ail sengl oddi-ar albwm uniaith Gymraeg o’r enw ‘Creithiau’ dwi’n recordio gyda Sion Russell Jones” meddai Rhys. 

Mae Rhys yn gobeithio rhyddhau ‘Creithiau’ ar ddechrau 2025 ond dywed bod ganddo gynnyrch pellach ar y gweill hefyd. 

“Ma albwm arall uniaith Gymraeg o’r enw ‘Tri’ wedi ei recordio yn barod gyda Frank Naughton hefyd. Albwm mwy acwstig yw hona. 

“Ar bob albwm dwi wedi recordio ma wedi bod o leia pedair cân Gymraeg ar bob un. Yr un nesa’ allan fydd albwm canu gwlad o’r enw ‘You Cut, I Choose’, a bydd y senglau dwbl dwyieithog oddi ar hwnnw allan cyn bo hir.”