Albwm Alffa ar gael i’w rag archebu

Mae albwm newydd y band roc Alffa ar gael i’w rag archebu nawr.

Mae’r band eisoes wedi datgelu mai ‘O’r Lludw / From Ashes’ ydy enw’r albwm newydd sydd allan ar label Côsh.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar feinyl, yn ogystal ag yn ddigidol, gyda’r dyddiad rhyddhau ar 29 Tachwedd.

Datgelodd y band wythos yma bod y copïau feinyl bellach wedi cyrraedd a bod modd rhag-archebu’r albwm. 

Dyma ‘Find Me’ a ryddhawyd yn ddiweddar fel blas o’r albwm newydd:

Gadael Ymateb