Al Lewis yn cyhoeddi manylion taith hydref 2024

Mae Al Lewis wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs y bydd yn perfformio ynddyn nhw yn ystod mis Hydref eleni. Yn perfformio gyda’i fand mewn 6 lleoliad gwahanol, dywed y canwr-gyfansoddwr hoffus ei fod yn “edrych mlaen i fynd nôl allan ar y lôn efo’r hogie yn mis Hydref.” Bydd Al yn ymweld â sawl rhan wahanol o Gymru fel rhan o’r daith ac mae modd archebu tocynnau trwy ei wefan nawr. 

Dyddiadau llawn taith Al Lewis:

11 Hydref – Neuadd Goffa Criccieth

12 Hydref – Theatr Fach Llangefni

18 Hydref – Canolfan Celfyddydau Pontardawe

19 Hydref – Eglwys Santes Fair, Conwy

25 Hydref – Theatr Derek Williams, Bala

26 Hydref – Clwb y Bont Pontypridd

Dolen archebu tocynnau: https://www.allewismusic.com/click-here