“Mae wir yn freuddwyd gallu rhyddhau’r gân hon, a chael y cyfle i weithio efo dau o eiconau cerddoriaeth Gymraeg.”
Dyma eiriau Ynyr Roberts, sy’n gyfrifol am brosiect pop positif, Popeth, wrth ryddhau sengl ddiweddaraf y prosiect.
Y ddau eicon dan sylw ydy Gai Toms a Tara Bandito, sydd ill dau wedi cyd-weithio gydag Ynyr ar gynnyrch diweddaraf Popeth.
‘Zodiacs’ ydy enw’r sengl, a dyma’r wythfed cân i’w rhyddhau gan brosiect diweddaraf y cerddor profiadol fu yn y gorffennol yn aelod o’r bandiau Epitaph a Brigyn.
Yn y gorffennol mae senglau Popeth wedi cynnwys cyfraniadau gan Leusa Rhys, Lewis Owen (Bendigaydfran), Martha Grug a Kizzy Cawford i enwi dim ond rhai o’i bartneriaethau.
Nod Popeth ydy dod â cherddoriaeth pop positif i’r sin Gymraeg. Mae’n brosiect blaengar a chynhwysol â’r caneuon sydd wedi eu cyfansoddi yn llenwi’r gofod yn sîn gerddoriaeth Gymraeg am bop disglair, phositif a chyfoes.
Mae’r cyd-weithio o tro hwn yn ymestyn y tu hwnt i’r cerddorion hefyd, gyda geiriau’r gân wedi eu cyfansoddi gan y prifardd Rhys Iorwerth. Mae’r penillion yn cael eu hadrodd gan Gai Toms, g’r cytgan dyrchafedig yn cael ei chanu gan Tara Bandito.
Gallwch gael gafael ar sengl ‘Zodiacs’ ar y llwyfannau digidol arferol nawr, gan gynnwys Bandcamp Popeth.