Albwm caneuon Nadolig gan Ffos Goch

Ymddengys bod hud y Nadolig wedi cydio o ddifrif yn Ffos Goch eleni wrth i’r cerddor ryddhau ei albwm llawn cyntaf, sy’n gasgliad o ganeuon, cerddi a straeon Nadoligaidd.

Ffos Goch ydy prosiect y cerddor o Birmingham, Stuart Estell, ac mae wedi bod yn hynod gynhyrchiol wrth ryddhau cerddoriaeth newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.  

‘Dawel Nos’ ydy enw ei albwm Nadoligaidd newydd sydd allan ers dydd Llun 9 Rhagfyr, ac sy’n cynnwys dwy ar hugain o ganeuon. 

“Albwm damweiniol yw ‘Dawel Nos’” eglura Estell. 

“O’n i’n bwriadu sgwennu cwpl o ganeuon, efallai, ond unwaith i mi ddechrau, wnes i ddim stopio. Felly daeth y syniad o wneud albwm sy’ mor gynhwysol â phosib. Felly dyma 22 o draciau Nadoligaidd newydd!”

O glywed y cerddor yn trafod yr albwm, daw’n amlwg bod elfen hunangofiannol i’r casgliad. Mae hefyd  yn rhoi lle amlwg i’r bobl sydd wedi bod yn rhan o’i daith wrth ddysgu’r iaith Gymraeg yn Birmingham. 

“Dyma straeon a cherddi doniol fy mhlentyndod, straeon fy ngyrfa fel cerddor eglwysig, caneuon myfyriol, ynghyd â chyfraniadau gan sawl ffrind – mae eitemau yn y Bwyleg, yr Hwngareg ac hefyd y Bortiwgaleg.

“Ac yn bwysig, mae lleisiau fy ffrindiau o’r grŵp Birmingham Welsh Meetup, dysgwyr sy’n cyfrannu at record am y tro cyntaf yn iaith y Nefoedd.”

Gan ystyried hynny, nid yw’n syndod gweld bod llawer mwy o gyfranwyr ar y record na sydd yn draddodiadol ar gerddoriaeth Ffos Goch. 

Y tro hwn, Ffos Goch yw: Stuart Estell: llais, geiriau, synths, peiriannau drymiau Ana Szeląg: llais, geiriau (Pwyleg-Redditch); Bronwen Andrew: llais, geiriau (dysgwr Cymraeg-Birmingham Welsh Meetup); Gary Varga: llais, geiriau (Hwngareg-Tamworth); Janine Lowe: llais, geiriau (dysgwr Cymraeg-Birmingham Welsh Meetup); Rosie Hunter: llais (Portiwgaleg); Simon Woodward: llais, geiriau (dysgwr Cymraeg-Birmingham Welsh Meetup). 

Yn ogystal â’r albwm, mae Ffos Goch yn cynllunio i ail-ryddhau ‘Y Solina Llawen’ a ‘Nadolig Gyda’r Sugnwyr Gwaed’, sef EPs a gafodd eu rhyddhau’n anffurfiol y llynedd, cyn y Nadolig.

Dyma’r teitl drac, a thrac agoriadol yr albwm: