Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion prif artistiaid Maes B Eisteddfod Wrecsam 2025, gan hefyd gyhoeddi bod tocynnau ar werth.
Datgelwyd mai Bwncath, Gwilym, Fleur de Lys ac Adwaith fydd yr artistiaid sy’n hedleinio Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf, ac ers dydd Mercher 4 Rhagfyr mae hefyd modd archebu tocynnau bargen gynnar ar gyfer y digwyddiad..
Gydag albwm newydd ar y ffordd y flwyddyn nesaf, Bwncath fydd prif fand nos Fercher gyda Gwilym yn cloi nos Iau ar brif lwyfan Maes B.
Yn dilyn eu llwyddiant ym Maes B Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni, Fleur de Lys fydd yn cloi nos Wener, ac Adwaith, sydd hefyd newydd ddatgelu dyddiad rhyddhau eu halbwm nesaf ym mis Chwefror, fydd yn cloi Maes B 2025 nos Sadwrn.
Bydd rhagor o gyhoeddiadau i ddod yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys lein-yps y bandiau, DJs ac amryw o brofiadau newydd a chyffrous.
Mae’r tocynnau bargen gynnar ar werth am £120, gyda’r pris i gynnwys gwersylla, tocyn i holl gigs Maes B a mynediad i Faes yr Eisteddfod.
Nifer cyfyngedig o docynnau bargen gynnar sydd ar gael, ac unwaith mae’r rhain wedi’u gwerthu, bydd y pris yn codi i £130 fel rhan o’r don gyntaf o docynnau.
Cynhelir Maes B o 5-9 Awst fel rhan o ŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyrion Wrecsam.
Dyma restr lawn yr hedleinars ar y gwahanol nosweithiau.
Mercher 6 Awst: Bwncath
Iau 7 Awst: Gwilym
Gwener 8 Awst: Fleur de Lys
Sadwrn 9 Awst: Adwaith