Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Taran, wedi ymuno gyda’r casgliad o artistiaid Cymraeg sy’n rhyddhau sengl Nadolig eleni.
‘Dymuniad ‘Dolig’ ydy enw’r sengl newydd ganddynt sydd allan ers dydd Gwener 6 Rhagfyr ar label JigCal.
Anodd credu mai 2024 oedd blwyddyn lawn cyntaf y band ifanc o Gaerdydd, Taran. Dros y 12 mis diwethaf, maent wedi rhyddhau dwy sengl, sef ‘Barod I Fynd’ a ‘Pan Ddaw’r Nos’, yn ogystal â’r EP ‘Dyweda, Wyt Ti…’ yn mis Gorffennaf.
Yn ogystal â’r gwaith recordio yn Stiwdio JigCal, mae Rose (llais), Nat (gitâr), Zelda (bass), Rhys (gitâr) a Steff (dryms) wedi bod yn gigio yn rheolaidd ar lwyfannau mwyaf Cymru gan gynnwys Gŵyl Triban, Tafwyl, Eisteddfod Genedlaethol a sawl gig lleol.
Yn ôl prif ganwr y band, mae’r sengl Nadolig yn ymgais ganddynt i ddangos bod hud y Nadolig yn parhau.
“Mae ‘Dymuniad ‘Dolig’ yn gân upbeat sy’n dangos fod pawb o bob oed yn gallu ail-ddarganfod ysbryd y Nadolig” meddai Rose.
“Er bod y Nadolig yn colli ei sglein i rhai wrth dyfu fyny, mae’r hud dal yno, dim ond i ti agor dy lygaid.”
Eglura Rhys o’r band bod diweddglo cyffrous i’r flwyddyn gan y band, yn enwedig gig arbennig yng Nghlwb Ifor Bach.
“Wnaethom ni ysgrifennu’r gân yn yr Haf – fel pob clasur Nadoligaidd” meddai Rhys gyda thafod ym moch.
“Mae ein gig olaf y flwyddyn yn Clwb Ifor Bach gyda Dadleoli a Tonnau ar y 17eg o Ragfyr. Mae’r tocynnau ar fin gwerthu allan, felly mae’n gyfnod cyffrous iawn!”