Bydd y gystadleuaeth i artistiaid ifanc a gynhelir er cof am aelodau craidd y band Ail Symudiad yn cael ei chynnal am y drydedd flwyddyn yn olynol yn 2025.
Sefydlwyd ‘Tlws Her Gorffa Richard a Wyn’ er cof am y brodyr Richard ac Wyn Jones gan drefnwyr Fel ‘na Mai yng Nghrymych yn wreiddiol yn 2023. Roedd y ddau frawd yn ddylanwadol iawn ym maes cerddoriaeth y De Orllewin, nid yn unig fel aelodau o’r band hirhoedlog Ail Symudiad, ond hefyd fel sylfaenwyr label a Stiwdio Fflach yn Aberteifi.
Y newyddion pellach ydy bod y ‘wobr’ yn ehangu y tro yma i ‘wobrau’, a hefyd yn agored i ystod ehangach o gystadleuwyr nag o’r blaen. Yn wreiddiol, y syniad oedd i wobrwyo artistiaid ifanc newydd o Sir Benfro, Sir Gâr neu Geredigion a rhoi hwb i’w gyrfa gerddorol. Ond, yn 2025 bydd y gystadleuaeth yn agored i artistiaid a bandiau o Gymru gyfan.
Bydd hefyd dwy wobr wahanol eleni sef ‘Gwobr Richard ac Wyn’ i fandiau, a ‘Gwobr Kevin’ i artistiaid unigol yn benodol.
Mae’r gwobrau i’r grŵp ac artist buddugol yn cynnwys sesiwn recordio gyda Fflach Cymunedol, gwobr ariannol a chyfle i berfformio mewn tair gŵyl yn y Gorllewin sef Gŵyl Fel ‘Na Mai, Gŵyl Crug Mawr a Gŵyl Gwrw Crymych.
“Ydych chi’n fand ysgol? Yn ffrindiau coleg? Yn artist unigol sydd eisiau cyrraedd cynulleidfa? Hoffech chi berfformio mewn tair gŵyl yn 2025 ac ennill gwobr ariannol? Ai chi fydd yr enw nesaf ar un o’r tlysau? Profiadol neu hollol ddi-brofiad, mae’r gystadleuaeth yn agored i chi. Mae Gwobrau Coffa Ail Symudiad yn chwilio am sŵn cyfredol a sŵn i’r dyfodol” meddai’r trefnwyr.
Y band Gelert enillodd y wobr yn 2024, gyda Band Dros Dro yn enillwyr yn 2023.
Cynhelir rownd derfynol y gwobrau yng Nghanolfan Hermon ar 14 Chwefror, ac mae gwybodaeth lawn am y gystadleuaeth ar wefan Gŵyl Fel ‘Na Mai.
Llun: enillwyr gwobr 2024, Gelert