Bydd y prosiect gwerin Cynefin yn rhyddhau albwm newydd ar ddiwedd mis Ionawr.
Cynefin ydy prosiect cerddorol y canwr gwerin, ymchwilydd, tyfwr grawn a hanesydd diwylliannol o Ddyffryn Clettwr, Owen Shiers.
‘Shimli’ ydy enw’r record hir newydd gan y prosiect, a bydd yn cael ei ryddhau ar 30 Ionawr ar label Recordiau Smotyn Du.
Mae’r casgliad newydd yn ddilyniant i’r albwm ‘Dilyn Afon’ ac yn gwreiddio ei hun yn yr un modd yn ddwfn yn nhreftadaeth a diwylliant Ceredigion.
Wrth barhau i wreiddio ei gerddoriaeth yn gadarn yn arferion a llen gwerin Ceredigion, mae’r albwm yn cymryd ei theitl o arferiad sydd bellach wedi darfod yng Ngorllewin Cymru o gynnal nosweithiau llawen mewn melinau a gweithdai.
“Dwi’n trafod testunau megis, iaith, amaeth, colli enwau lleoedd, byd natur a mwy trwy lens cyfoes ffres” meddai Owen Shiers am yr albwm newydd.
“Mae sylw hefyd yn cael ei rhoi i feirdd gwlad Ceredigion, gan fy mod i wedi gosod nifer o’u cerddi i alawon ar y albwm.”
Gan dynnu ysbrydoliaeth o ganu gwerin, traddodiad y beirdd gwlad – yn ogystal â straeon a hanes cof byw, mae’r albwm yn archwilio’r groesffordd rhwng cerddoriaeth, barddoniaeth, bwyd a byd natur.
Mae’r gwaith yn fryslythyr personol o’r ymdrech i gynnal iaith, diwylliant a ffordd o fyw – deiseb gerddorol sydd yn mynegi llais yr amrywiol a’r diflanedig yn ein hoes o homogeneiddio ac lled-Amnesia.
Prif sengl yr albwm ydy ‘Helmi’, sy’n cyflwyno geiriau cerdd angof gan y ffermwr Ifan Jones o Prengwyn.
Ynddi, disgrifia Jones ffermdy’r teulu wedi’i hamgylchynu gan fyddin gwydn o helmi (teisi ŷd) mewn lifrau aur, gan amddiffyn y trigolion rhag newyn a chaledni’r gaeaf. Er mor rhamantaidd ag y gall y darlun ymddangos, mae’r darn yn gofnod teimladwy a thelynegol o’r gorffennol pell.
Nid yn unig y mae helmi wedi diflannu o dirwedd Cymru – yn arwyddocaol, felly hefyd y cnydau brodorol a fu unwaith yn bwydo cenedl. I wlad sydd bellach bron yn gwbl ddibynnol ar fwyd wedi’i fewnforio, efallai fod neges amserol yn ei eiriau.