Cyhoeddi manylion cylchdaith ddiweddara’ PYST a Mentrau Iaith Cymru

Mae asiantaeth hyrwyddo cerddoriaeth PYST wedi cyhoeddi manylion y drydedd gylchdaith iddynt drefnu ar y cyd gyda Mentrau Iaith Cymru.

Bydd y gylchdaith ddiweddaraf yn gweld y canwr gwerin poblogaidd Gwilym Bowen Rhys yn perfformio mewn unarddeg o leoliadau gwahanol yn y flwyddyn newydd.

Daw’r daith ddiweddaraf yn dilyn dwy gylchdaith lwyddiannus yn ystod 2023 gyda HMS Morris a The Gentle Good yn perfformio.   

Bwriad y bartneriaeth rhwng PYST a Mentrau Iaith Cymru ydy ail-gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg ar lwyfannau byw i ardaloedd gwledig Cymru i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn cael mynediad at gerddoriaeth fyw yn eu hardaloedd lleol. 

Bydd gig cyntaf y daith yn cael ei gynnal yn neuadd Llanefydd ar 23 Ionawr, sy’n amserol gan bod Gwilym Bowen Rhys yn rhyddhau ei albwm newydd, ‘Aden’, ychydig ddyddiau cyn hynny ar ddydd Llun 20 Ionawr. 

Mae’r daith yn cael ei chefnogi gan gynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru, a bydd artistiaid eraill, gan gynnwys Melda Lois, Elin a Carys a Cadog, yn cefnogi Gwilym yn rhai o’r lleoliadau. 

“Rydym yn gyffrous iawn ar gyfer y drydedd daith ar y cyd rhwng y Mentrau Iaith a PYST” meddai Tomos Jones ar ran Mentrau Iaith Cymru.  

“Nod y prosiect yw mynd â cherddoriaeth iaith Gymraeg o’r safon uchaf i bob cornel o’r wlad, ac rydym yn ymweld â nifer o leoliadau newydd am y tro cyntaf ar y daith yma. 

“Yn ogystal â Gwilym a’i driawd, bydd cyfres o artistiaid newydd yn cefnogi ar y daith, ac felly bydd y prosiect hefyd yn cynnig cyfleoedd pwysig iddyn nhw chwarae i bobl newydd ac adeiladu eu cynulleidfaoedd.”

Bydd nifer o leoliadau newydd ar y daith y tro hwn, ac mae Owain Williams o PYST yn dweud bod hynny’n cynnig mwy o amrywiaeth. 

“Mae’n gyffrous gweld y gylchdaith yn dychwelyd ar gyfer ei thrydydd rhediad flwyddyn nesaf a’n grêt gweld lleoliadau newydd, mwy amrywiol, yn rhan o’r daith” meddai Owain. 

“’Da ni’n edrych ymlaen at allu cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i ardaloedd mwy gwledig Cymru, fydd yn gobeithio ail-ddechrau’r arferiad o gigs cymunedol lleol.”

Bydd y daith yn ymweld â lleoliadau yn Llannefydd, Wrecsam, Clawddnewydd, Llanrheadr-ym-Mochnant, Pontyberem, Aberystwyth, Trefdraeth, Llandeilo, Y Barri a Merthyr Tudful rhwng 23 Ionawr a 15 Chwefror. Mae modd archebu tocynnau nawr. 

Dyma restr lawn gigs y daith: