Mae’r band rap o Gaernarfon, 3 Hŵr Doeth, wedi cyhoeddi manylion eu halbwm newydd.
‘Y Buarth’ fydd enw trydydd record hir y prosiect, a bydd yr albwm yn glanio cyn y Nadolig.
Yn wir, bydd lansiad yn cael ei gynnal yn Jac y Do, Caernarfon ar 23 Rhagfyr gyda Pys Melyn a Dienw yn cefnogi 3 Hŵr Doeth ar y noson.