Mae’r band ifanc o Sir Gaerfyrddin, Alys a’r Tri Gwr Noeth, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ers dydd Gwener 4 Hydref.
‘Rhy Hir’ ydy enw’r trac cyntaf i’w gyhoeddi gan y band ac mae allan ar label newydd o’r enw Label Amhenodol.
“Mae ‘di bod rhy hir – ers nhw ddwyn ein tir” – dyna eiriau’r sengl gyntaf gan y band ifanc.
Criw o ddisgyblion ysgol Maes y Gwendraeth yw Alys a’r Tri Gwr Noeth sy’n perfformio cerddoriaeth roc angerddol.
Wedi ffurfio yn ystafell gerddoriaeth yr ysgol, fe aeth y band ymlaen i ennill cystadleuaeth ‘Brwydr y Bandiau Sŵn Sir Gâr 2024’ a gynhaliwyd gan Menter Iaith Cwm Gwendraeth a Gorllewin Sir Gâr yn gynharach eleni.
Mae’r trac ‘Rhy Hir’ yn gân wladgarol sy’n galw am chwyldro ac yn pwysleisio angerdd y band tuag at Annibyniaeth i Gymru.
Recordiwyd y gân gyda Steffan Rhys Williams ac mae fideo cerddoriaeth tanllyd ar gyfer y sengl hefyd wedi’i ffilmio trwy brosiect Shwmae Sir Gâr.
Roedd cyfle i weld y band yn perfformio’n fyw yn ddiweddar wrth iddynt gefnogi Geraint Løvgreen fel rhan o Ffrinj Abertawe ac maent yn edrych ymlaen at gefnogi Dafydd Iwan mewn gig ym mis Tachwedd.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Rhy Hir’: