Erin Dafis yn rhyddhau ‘Yn Ôl at fy Nghoed’

Mae’r gantores Erin Dafis wedi rhyddhau ei sengl gyntaf.

‘Yn Ôl At fy Nghoed’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i ryddhau ar y llwyfannau digidol arferol trwy label Recordiau Sain.

“Mae’r gân yma’n cael ei chyflwyno i unrhyw un sydd wedi, neu’n dal i fynd trwy rhyw fath o gamdriniaeth” meddal Erin Dafis.

“Mae’n gân am ddarganfod dy hun unwaith eto, ac i beidio byth ag ildio.”