Mae’r hyrwyddwyr cerddoriaeth amgen sy’n gweithio’n bennaf yn ardal Abertawe, NAWR, wedi cyhoeddi manylion gŵyl undydd a gynhelir ganddynt fis Tachwedd.
Bydd Gŵyl NAWR yn cael ei chynnal yn lleoliad Tŷ Tawe ar ddydd Sadwrn 2 Tachwedd gyda cherddoriaeth fyw drwy gydol y dydd.
Mae’r arlwy yn llawn o artistiaid sy’n cynnig pob math o gerddoriaeth arbrofol gan gynnwys enwau fel Ffrancon, Rhys Trimble ac Y Dydd Olaf.
Cynhaliwyd yr ŵyl yn yr un lleoliad flwyddyn yn ôl ac mae NAWR yn gweithio’n agos gyda Menter Iaith Abertawe.
Mae’r tocynnau ar werth nawr am £15 ymlaen llaw.
Leinyp llawn Gŵyl NAWR 2024:
Codi Dan-Ddaear
Y Dydd Olaf
Ffrancon
Gwenifer Raymond
Gwilly Edmondez + Ash Cooke
Managed Decline
Radio Free Ponty
Rhys Trimble
SWI (Byrfyfyrwyr De Cymru)
Steve Davis
Teddy Hunter
Tess Wood, Camilla Nelson & Nia Davies
WEMA (Cynghrair Cerddoriaeth Arbrofol Cymru)
Yeah You