‘Anadlu’ ydy enw’r sengl sydd allan gan enw newydd i’r sin hip-hop Gymraeg, Knuckle MC.
Knuckle MC ydy prosiect Dewi Foulkes, sydd wedi bod yn creu cerddoriaeth hip hop amlieithog ers 2022.
Bydd dilynwyr ffyddlon y sin gerddoriaeth Gymraeg yn ei adnabod fel basydd y band chwedlonol, Derwyddon Dr Gonzo. Ers i’r band hwnnw ddod i ben, mae Dewi wedi bod yn gweithio yn y byd teledu fel technegydd effeithiau arbennig ar gyfer ffilmiau a chyfresi.
Bellach yn ôl yn ysgrifennu ac yn rhyddhau cerddoriaeth am bethau sy’n agos at ei galon, gan gynnwys ei hunaniaeth fel Cymro, mae Knuckle MC yn un i’w wylio.
Yn ei amser sbâr, mae Dewi focsiwr amatur ac wedi paffio’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn ddiweddar. Mae cerddoriaeth Knuckle MC yn adlewyrchu’r grefft o focsio gan sianelu’r pŵer i gyfleu gorchfygu gormes mewn cyfrwng medrus a phwrpasol.
Cynhyrchydd y trac ydy Ed Holden, neu Mr Phormula, ac mae wedi bod yn help mawr i Dewi wrth iddo berffeithio’i grefft gan hefyd ymddangos ar ei sengl flaenorol, ‘Tri Telynegwr’, ynghyd â rapiwr arall o Fethel, Caernarfon – ‘3hree8ight’.