Tokomololo yn disgleirio

‘Disglair’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng gan yr artist electronig newydd Tokomololo. 

Tokomololo ydy prosiect y cerddor Meilir Tee Evans artist sydd wedi cymryd blynyddoedd i ddod o hyd i’w hunaniaeth gerddorol ac mae cynnyrch Tokomololo yn profi ei fod wedi llwyddo.

Daeth Tokomololo i’r amlwg gyntaf wrth ryddhau’r sengl ‘Gafael yn Sownd’ ym mis Tachwedd 2023. Dilynwyd hynny gan sengl arall, ‘Seibiant’, yn gynharach yn y flwyddyn eleni

Label electronig HOSC sy’n gyfrifol am ryddhau cerddoriaeth Tokomololo a dywed y label eu bod yn falch iawn o gael yr artist ar y llyfrau, gan weld  ei gerddoriaeth ymysg y mwyaf cyfredol yn y sin electroneg yng Nghymru ar hyn o bryd

Mae’n werth bwrw golwg ar gyfrif Instagram Tokomololo i’w weld yn chwarae gyda lwpio byw ac i gael cipolwg ar ddeunydd newydd.