Mae Angharad Rhiannon wedi rhyddhau ei EP newydd sy’n talu teyrged i’w hardal leol, fydd yn dwyn sylw’r wlad am wythnos ddechrau mis Awst eleni.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar y gorwel, ac a hithau’n ferch leol mae Angharad Rhiannon yn awyddus i bobl glywed caneuon o’r ardal cyn dod i’r Eisteddfod fis Awst.
‘Adref’ ydy’r enw addas ar yr EP o bedair o ganeuon sydd â chysylltiad gydag ardal yr Eisteddfod.
Un o’r caneuon ar yr EP ydy ‘Tref’, sy’n drac gwreiddiol gan Angharad. Mae’r trac wedi’i ysbrydoli gan Aberdâr, sydd wedi’i henwi’n y gân.
“Ro’n i’n gyrru trwy’r bannau ar ddiwrnod braf pan stopiais i’r car i weld yr olygfa… sy jest yn anhygoel” meddai Angharad.
“Ro’n i’n edrych ar y bobl yn cerdded ac yn meddwl am yr holl olion traed sy ar y mynyddoedd a faint o hanes a chyfrinachau sydd yn y mynyddoedd ac wrth gwrs daeth alaw ata i, felly ysgrifennais i hon.”
Mae’r gytgan yn sôn am Caradog sydd efallai angen ychydig o esboniad. Mae ’na gerflun o Caradog yn nhref Aberdâr. Caradog oedd arweinydd y côr mawr sef côr o dros 400 o bobl oedd yn dod i Aberdâr i ymarfer. Enillon nhw gystadleuaeth Crystal Palace yn 1872 ac 1873 ac mae’n debyg bod rhai o deulu Angharad yn aelodau o’r côr.
Mae Angharad yn hynod o falch bod y cerddor amlwg o’r ardal, Ragsy, wedi cytuno i ychwanegu lleisiau cefndir at y gân Cwm Rhondda (Bread of Heaven) sydd hefyd ar yr EP.
“Ro’n i’n awyddus i gael rhywun arall lleol i ganu gyda fi, ac mae Ragsy’n dod o Aberdâr fel fi” meddai’r gantores.
“Mae llais Ragsy fel mêl a dwi mor lwcus bod e wedi canu gyda fi. Mae e wir yn ganwr anhygoel!”
Todd Campbell sydd wedi cynhyrchu’r traciau sy’n ymddangos ar yr EP gyda Rob Davies ar y gitâr. Mae’r ddau, ynghyd â Stephen Davies sy’n gyfrifol am waith celf y record, hefyd yn dod o ardal Rhondda Cynon Taf.
Mae Angharad wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn helpu i godi arian tuag at yr Eisteddfod, gan gefnogi Morgan Elwy, Bronwen Lewis a Delwyn Siôn mewn gigs codi arian arbennig.