Sengl ddiweddara’ Mr Phormula

Mae Mr Phormula wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwerthaf, 28 Mehefin. 

‘Atebion’ ydy enw’r trac diweddaraf gan frenin hip-hop Cymru sydd allan ar ei label ei hun, Mr Phormula Records. 

Yn plethu themâu sy’n cynnwys hunaniaeth a phositifrwydd, mae’r trac bywiog hwn eto’n defnyddio llais unigryw Mr Phormula i wrthgyferbynnu â’i guriadau nodedig. 

Does dim amau bod Mr Phormula yn cael ei weld fel llysgennad dros hip-hop ddwyieithog, ac mae ‘Atebion’ hefyd yn addo i fod yn drac i’w fwynhau yng Nghymru a thu hwnt. 

Yn dilyn rhyddhau ei sengl newydd, bydd Mr Phormula yn chwarae mewn cyfres o wyliau dros y misoedd nesaf gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Lleisiau Eraill a sawl gig arall i’w gyhoeddi. 

Mae ’na fideo gwych i gydfynd â’r sengl newydd, a dyma fo: