Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau ei hail sengl ers dydd Gwener diwethaf, 28 Mehefin.
‘Barod i Fynd’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sydd allan ar label JigCal.
Mae ‘Barod I Fynd’ yn faled bwerus sy’n dangos aeddfedrwydd cerddorol y band ac er fod ganddi naws feddylgar, mae dylanwad roc y pumawd yn parhau i fod yn amlwg wrth i’r gitârs a’r drymiau ychwanegu at angerdd y gân.
“Mae’r geiriau yn cyfleu cymhlethdodau dechrau perthynas a’r angen i ddod dros heriau cychwynnol” eglura Rose, prif leisydd y band.
Mae’r band wedi bod yn prysur ennill dilynwyr yn ddiweddar gyda’u gigs egnïol a’u fideo sy’n cyd-fynd â’r sengl gyntaf, ‘Pan Ddaw’r Nos’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni.
Bu i’r band hefyd ymddangos ar glawr cylchgrawn Golwg rai wythnosau yn ôl, ac maent yn sicr yn mynd o nerth i nerth ac ar hyn o bryd.
Bydd y sengl yn cael ei ddilyn yn fuan gan EP cyntaf Taran fydd yn cael ei ryddhau ar 12 Gorffennaf.