Yr artist diweddaraf i ymuno â label Recordiau Côsh ydy’r cerddor a’r cyfansoddwr, Betsan, sydd ar ddechrau ei phennod greadigol newydd fel artist.
Betsan ydy Betsan Haf Evans, sydd wedi bod yn aelod o sawl band dros y blynyddoedd, gan gynnwys Genod Droog, Kookamunga, Y Panics a Daniel Lloyd a Mr Pinc.
A hithau wedi cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru 2016 gyda’r gân fachog ‘Eleri’, mae Betsan wedi rhyddhau ambell sengl fel cerddor unigol dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â bod yn aelod blaenllaw o’r band rockabilly, Pwdin Reis.
Nawr mae wedi rhyddhau ei sengl unigol ddiweddaraf ar ei label newydd.
Glaniodd ‘Rhydd’ ddydd Gwener diwethaf, 1 Tachwedd, a dyma yw’r gyntaf mewn cyfres o senglau fydd Betsan yn eu rhyddhau dros y misoedd nesaf yn ôl y label.
Mae hefyd fideo arbennig, wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos Lŵp a PYST, yn cyd-fynd â’r trac ac mae modd gwylio hwn ar wefan AM.