‘Disglair’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sydd wedi’i rhyddhau gan Sywel Nyw sy’n ei weld yn cyd-weithio gyda Phrifardd diweddaraf Cymru.
Ag yntau’n gyfarwydd am gyd-weithio gydag artistiaid amrywiol ar ei ganeuon, y tro hwn mae Sywel Nyw i’w weld yn partneriaethu gyda’r Prifardd, Carwyn Eckley.
Yn dilyn llwyddiant diweddar y ddau, a hynny o fewn meysydd tra gwahanol, dyma ddarn o waith sydd yn cyfuno barddoniaeth a phop mewn modd ffres ac unigryw.
Sywel Nyw ydy prosiect unigol y cerddor Lewys Wyn, ac mae ‘Disglair’ yn nodi pennod greadigol newydd i’r cynhyrchydd gan hefyd gynnig blas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl ganddo yn 2025.
Ar ôl ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn (2022) gyda’i albwm cyntaf, ‘Deuddeg’ — prosiect cydweithredol arbennig a welodd deuddeg artist gwahanol yn ymddangos ar ddeuddeg trac unigryw — mae Sywel Nyw yn parhau i bylu ffiniau gyda’i sengl ddiweddaraf wrth iddo samplo Maffia Mr Huws (‘Newyddion’, 1985) a Helen Wyn (‘Tydi yw’r unig un i mi’, 1965).
Cafodd Carwyn Eckley lwyddiant eisteddfodol dros yr haf eleni hefyd trwy gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd.
Yn feiddgar ac yn lliwgar, mae ‘Disglair’, yn torri tir newydd yn y Gymraeg wrth uno barddoniaeth a churiadau dawns egnïol.
“Mae’r trac yn adlewyrchiad amrwd o berthynas — boed yn gariad neu’n ffrind — ac yn rhamantu’r eiliadau prin hynny yn oriau mân y bore lle mae dau yn mwynhau cwmni ei gilydd, yn ei ffurf fwyaf pur” eglura Lewys.
Gan blethu geiriau personol â churiadau dawns meddwol, mae ‘Disglair’ yn gweld Sywel Nyw yn mentro i dir arbrofol y byd dawns electronig, ac yn llusgo’r Prifardd efo fo.