Bydd band dwyieithog o Ganolbarth Cymru / Bryste, Moletrap yn rhyddhau eu sengl newydd ddiwedd mis Tachwedd.
‘Rhagofn’ ydy enw’r cynnyrch diweddaraf fydd yn cael ei ryddhau ganddynt ar ddydd Gwener 29 Tachwedd, gan ddilyn llwyddiant eu sengl ddiwethaf, ‘Nation of Sanctuary’, a dderbyniodd glod gan Adam Walton o BBC Introducing in Wales yn enwedig.
Daw’r sengl ddiweddaraf wrth i’r triawd roc baratoi i ryddhau eu halbwm.
“Rydym yn dri ffrind o bentrefi gwledigyng Nghefn gwlad Cymru” eglura Moletrap.
“Bydd ein albwm roc gorffwyll, sydd allan yn fuan, yn ceisio dal naws gwyllt canol Cymru sy’n aml yn cael ei anwybyddu, mewn ymdrech i dorri’r stereoteip bod Canolbarth Cymru’n le tawel, digyffro.
“Rydym bob amser yn ymdrechu i swnio fel Mynyddoedd Cambria yn grwgnach ac yn chwalu.”
A hwythau’n canu’n ddwy-ieithog, mae’r band yn gweld y cyfuniad o’r ddwy iaith yn bwysig i’r hyn maen nhw’n ei wneud.
“Rydym am hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chysylltu pobl yn ein gigs gyda rhyddid gwyllt eang yr ardal.
“Rydym yn canu, yn y Gymraeg a’r Saesneg, am hanes, llefydd, pobl, datblygiad, natur a chwedlau yn yr ardal.”
Er eu bod nhw’n canu’n ddwy-ieithog, mae’r band yn cydnabod bod eu perthynas â’r iaith Gymraeg yn un gymhleth.
“Mae llawer ohonom, wedi’n geni i expats o Loegr, wedi ein magu’ ddryslud ynglŷn â’n hunaniaeth ac rywsut, yn dawel bach, yn teimlo chwerwder at sychder Cymraeg y dosbarth.
“‘Rhagofn’ ydy cân agoriadol yr albwm, sy’n cael ei chanu’n y Gymraeg a’r Saesneg, ac sy’n ein cysylltu gyda’r hunaniaeth ‘canolbarth’ amwys yma, ac wrth wneud hynny mae’n dod â thema’r albwm yn glir: balchder yn ein iaith Geltaidd a chenedl gynhwysol, plentyndod yn amau ein Cymreictod, a’r amwysedd cynnil yma rydym yn ei ysgwyddo o beidio bod yn y Gogledd nac yn y De.”
Bydd y sengl allan yn annibynnol ar 29 Tachwedd.