Gyda chynifer o artistiaid a phrosiectau o Gymru yn heidio i’r Festival Interceltique de Lorient, mae rhai o’r uchafbwyntiau i’w gweld ar blatfform Lŵp S4C.
A hithau’n Flwyddyn Ieuenctid yn yr Ŵyl, aeth Côr yr Urdd draw i berfformio, a gellir gwylio’u perfformiad nhw o ‘Harbwr Diogel’ ar gyfryngau cymdeithasol Lŵp.
Yn ogystal, mae fideo byw o ‘Eurotrash’ gan NoGoodBoyo, a ‘CHENCH TU’ gan Shamoniks a Krismenn, i’w gweld ar sianel YouTube Lŵp.
Dyma Shamoniks a Krismenn o’r ŵyl.