Rhifyn Haf 2024 Y Selar

Mae rhifyn newydd sbon o gylchgrawn print Y Selar allan nawr – rhifyn Haf 2024.

Y band Ynys sydd ar glawr y rhifyn diweddaraf ac mae cyfweliad gyda’r gŵr sy’n eu harwain, Dylan Hughes yn y cylchgrawn.

Ceir cyfweliadau hefyd gyda’r bandiau Taran a Dadleoli ynghyd â’r artist unigol Melda Lois.

Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys rhagolwg o gystadlaethau Brwydr y Bandiau’r Eisteddfod, a sgwrs gyda’r DJ Huw Stephens am ei gyfrol newydd ‘Wales 100 Records’.

Roedd y rhifyn yn cael ei ddosbarthu’n eang yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae bellach ar gael hefyd yn y mannau arferol ledled y wlad gyda fersiwn digiol ar-lein. 

Gallwch hefyd ddarllen y fersiwn digidol trwy glicio ar y clawr neu’r ddolen isod!

Darllen Selar Haf 2024