Mae lleoliad Pontio ym Mangor wedi cyhoeddi manylion gŵyl Psylence eleni.
Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y byddai’r ganolfan gelfyddydol ym Mangor yn cyflwyno’r penwythnos hwn o ddigwyddiadau arbennig fis Hydref i ddathlu a chofio cyfaill a chydweithiwr, Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst).
Psylence oedd un o’r digwyddiadau y gwnaeth Emyr eu cydlynu yn ei waith yn Pontio gyda bandiau megis Datblygu, Adwaith, ac R. Seiliog yn gosod cerddoriaeth a’i berfformio’n fyw i ffilmiau megis: Kiss Andy Warhol, ffilmiau byr Maya Deren, Earth gan Dovzhenko, a llawer iawn mwy gan lenwi penwythnos o ddigwyddiadau yn y Sinema.
Nos Wener, y 4ydd o Hydref, bydd dangosiad byw o’r ffilm ‘Pandora’s Box’ o waith G.W. Pabst, gyda thrac sain byw ecsgliwsif wedi’i gyfansoddi gan Pat Morgan ac Alan Holmes. Bydd tocyn penwythnos hefyd yn rhoi mynediad i ddangosiadau o ffilmiau megis ‘Phantom Thread’, ‘Katzelmacher’, a ‘The Medusa Touch’.
Nos Sadwrn, y 5ed o Hydref, bydd gig yn serennu Mr, Adwaith, ac Edwin R Stevens yn dilyn sgôr electronig byw gan R.Seiliog ar gyfer y ffilm ‘Earth’, berfformwyd yn wreiddiol yn Psylence 2017. Bydd setiau gan y DJs Gruff Libertino a Gareth Potter hefyd yn rhan o’r arlwy.
Nos Sul, y 6ed o Hydref, bydd dangosiad o ffilm gynhyrchwyd, ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Emyr Glyn Williams, sef ‘Y Lleill’, ryddhawyd yn 2005. Fe’i dilynir gan sesiwn holi ac ateb gydag aelodau o’r cast a’r criw i gloi’r penwyth
Yn ôl Pontio, dywediad Emyr oedd ‘adeilada fo, am mi ddown nhw’, a’u bwriad yw adeiladu ar “un o’i ddigwyddiadau mwyaf beiddgar, arloesol a chyffrous”.