Mae Bwncath wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Sain ers dydd Gwener diwethaf, 5 Gorffennaf, sef ‘Castell Ni’.
Yn ôl yn 2020, cymerodd Elidyr Glyn ran mewn prosiect ar y cyd ag Ysgol Y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan drwy ysgrifennu cân yn seiliedig ar atebion y plant i gwestiynau ynglŷn â’u teimladau am hanes Caernarfon gan ganolbwyntio ar y Castell.
Uchafbwynt y prosiect gwreiddiol oedd mynd i Gastell Caernarfon i berfformio’r gân ar y cyd.
Ar ôl y cyfnod clo, daeth cyfle i ymestyn y prosiect ymhellach wrth i’r band ddechrau ar y broses o recordio’r gân yn stiwdio Sain.
Wedi hyn, yn 2023 rhoddwyd gwahoddiad i holl blant ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon ddod i recordio’r gân yn Ysgol Syr Hugh Owen.
Y tro hwn, daeth dros 400 o ddisgyblion o Ysgol Bontnewydd, Y Gelli, yr Hendre, Maesincla, Rhosgadfan, Rhostryfan a Santes Helen i gyd-ganu.
I gloi’r prosiect gwahoddwyd y plant i berfformio’r gân dros yr aber gyferbyn â’r castell yng Nghaernarfon ar fore’r Gŵyl Fwyd Caernarfon ym mis Mai eleni, gan ffilmio’r cyfan er mwyn creu fideo i gyd-fynd â rhyddhau’r recordiad.
Mae’r fideo i’w weld ar sianel YouTube Bwncath nawr.
Mae Bwncath yn cael haf prysur unwaith eto eleni ac wrthi yn gweithio ar eu trydydd albwm a fydd allan yn 2025.
Dyma’r fideo: