Mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi manylion leinyp eu llwyfan ‘Settlement’ ar gyfer y digwyddiad eleni.
Mae’r gigs ‘Sefydlwyr’ yn cael eu cynnal ar ddechrau’r wythnos cyn yr ŵyl ar gyfer y rhai sydd am wneud wythnos lawn ohoni.
Cynhelir y brif ŵyl ar benwythnos 15-18 Awst eleni, a bydd y llwyfan Sefydlwyr yn rhedeg rhwng dydd Llun 12 Awst a dydd Mercher 14 Awst.
Fel arfer mae nifer o artistiaid o Gymru, ac artistiaid Cymraeg yn arbennig yn perfformio yn yr ŵyl Sefydlwyr, ac mae hynny’n wir eto eleni gyda Mellt, Talulah, Carwyn Ellis, Malan, Crinc, Tara Bandito a Francis Rees oll ymysg yr enwau.
Mae tocynnau’r ŵyl i gyd eisoes wedi’u gwerthu.
Leinyp llwyfan Sefydlwyr:
Llun, 12 Awst – Mellt, Talulah, Wrkhouse, Carwyn Ellis, Malan Lili Zing
Mawrth 13 Awst – Parcs, Casual Smart, Crinc, Bau Cat, Em Koko, Craven
Mercher 14 Awst – Tara Bandito, Murder Club, Water Pistol, Francis Rees, Nia Wyn, Danielle Lewis