Caneuon Nadolig Iestyn Gwyn Jones

Mae’r cerddor o Gaerdydd, Iestyn Gwyn Jones, wedi rhyddhau ei gynnyrch diweddaraf, sef sengl ddwbl o ganeuon Nadolig. 

‘Nadolig i Bob Un’ ac ‘Eira Mân’ ydy’r ddau drac Nadoligaidd acwstig sydd allan gan yr artist sy’n gyfarwydd hefyd fel prif-leisydd y band ‘Brass-Rock’, BLE?’. 

Mae hi bellach yn arferiad gan y canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd i gyflwyno caneuon Nadolig newydd dros gyfnod yr ŵyl yn flynyddol. Eleni am y tro cyntaf mae Iestyn yn rhyddhau dau o’i ganeuon Nadolig cynharaf ar ffurf recordiadau acoustic byw sydd wedi eu recordio yng Nghapel Tabenacl, Efail Isaf. 

‘Eira Mân’ oedd y gân Nadolig gyntaf i Iestyn ei hysgrifennu. Fe berfformiodd y cerddor y gân yma ar bennod arbennig o Noson Lawen yn 2021, ‘Dolig yr Ifanc’. Daeth y gân yma hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth ‘Carolau Côr-ona’ dan 16 yn 2020. 

Mae ‘Eira Mân’ yn trafod yr holl nodweddion sy’n cwmpasu’r syniad o Nadolig gwyn delfrydol. Mae elfen ddigri yn y gân hefyd wrth i ail bennill fwy rhythmig/rap gan drafod o brespectif mwy gwirioneddol a real – “Dathlu ‘Dolig ers mis Medi? Na, sai’n credu.”

Mae ‘Nadolig i Bob Un’ yn gân Nadolig sy’n estyn gobaith am y flwyddyn newydd wrth gofio’r flwyddyn a fu. Mae’r gân yn trafod rhyfeloedd a distyr ynghyd ag iechyd meddwl gan obeithio am flwyddyn newydd well. Fe ddaeth y gân yma yn ail yng nghystadleuaeth ‘Carolau Côr-ona’ yn 2020. 

I gyd-fynd gyda’r sengl ddwbl mae Iestyn wedi recordio fideos perfformiad byw o’r caneuon fydd ar gael ar YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol.

Dyma’r fideo perfformiad byw ar gyfer ‘Nadolig i Bob Un’: