Cyhoeddi manylion albwm Adwaith wrth ollwng sengl

Mae’r triawd o Gaerfyrddin, Adwaith, wedi rhyddhau eu sengl newydd ynghyd â newyddion cyffrous am eu halbwm nesaf. 

Adwaith ydy Hollie Singer, Gwenllian Anthony, a Heledd Owen ac mae’r band wedi creu argraff fawr yng Nghymru ac ymhell tu hwnt dros y blynyddoedd diwethaf.

‘Miliwn’ ydy enw eu sengl newydd, ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau eu trydydd albwm, Solas. 

Wrth ryddhau’r sengl newydd, mae’r band hefyd wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau ‘Solas’, sef 7 Chwefror 2025. Bydd yr albwm, fel eu holl gynnyrch blaenorol, yn cael ei ryddhau trwy label Recordiau Libertino. 

Albwm ddwbl – 23 trac

Mae Solas yna addo bod yn glamp o record ym mhob ystyr – mae’n albwm ddwbl, 23 trac, ac mae’r casgliad yn cwblhau trioleg arbennig y band gan archwilio themâu sy’n cynnwys hunan-ddarganfyddiad, dihangfa, a chadernid. 

I ddathlu’r cyhoeddiad, mae Adwaith yn rhyddhau sengl newydd sbon, ‘Miliwn’, a hefyd yn cyhoeddi taith ar draws y DU ac Ewrop.   

Wedi’u dylanwadu’n wreiddiol gan y sin gerddoriaeth yng Nghaerfyrddin, a’r bandiau Cymraeg a chwaraeodd yn aml yn yr eiconig, The Parrot, roedd y band – a oedd yn eu harddegau pan ddechreuon nhw greu cerddoriaeth gyda’i gilydd – yn teimlo’r awydd i ddianc o’u tref enedigol pan oedden yn iau, ond mae gwreiddiau’r gorllewin wedi dal eu gafael ers erioed. 

Mae Solas yn cynrychioli pennod newydd i Adwaith, pennod sy’n amlygu eu hesblygiad amlwg fel band. Wedi’i ysgrifennu yng Nghaerfyrddin, mae’r albwm yn uno hunaniaeth a’r teimlad o berthyn. 

‘Dod o hyd i gartref’

Solas ydy trydydd albwm Adwaith, gan ddilyn ‘Melyn’ a ‘Bato Mato’ a enillodd ill dau Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018 a 2022 – yr unig fand hyd yma i gipio’r teitl ddwywaith. 

Mae’r albwm yn cynnig archwiliad amrwd o hunan ddarganfyddiad yn ôl y band. 

“Mae’n ymwneud â dod o hyd i gartref, y lle diogel hwnnw ynoch chi’ch hunain,” eglura Hollie Singer. 

Yn gerddorol, mae’r record hon yn nodi datblygiad o ddylanwadau ôl-pync cynnar y band, gan dynnu ynghyd tapestri cyfoethog o chwaeth gerddorol sy’n cynnwys elfennau o ABBA, The Cure, Lizzy Mercier Descloux a Jessica Pratt. 

Ysgrifennwyd rhan helaeth o draciau ‘Solas’ yn nhŷ Heledd, drymiwr Adwaith, yng ngorllewin Cymru, ac fe’i recordiwyd ar draws gorllewin Cymru, Lisbon ac Ynysoedd yr Hebrides. Yn ôl y band, mae’r lleoliadau anghysbell hyn wedi dylanwadu ar awyrgylch ysbrydol a thaith gerddorol yr albwm. 

‘Miliwn’  yn dathlu’r eiliadau gwerthfawr

Ynglŷn â’r sengl, ‘Miliwn’, dywed y band ei bod  “yn ein hatgoffa i ddathlu’r eiliadau gwerthfawr mewn bywyd a’r pwysigrwydd o roi egni at bobl sy’n gwneud i chi deimlo’n dda.”

Bydd Adwaith yn cychwyn ar eu taith ar draws y DU ac Ewrop fis Chwefror 2025. Mae’r albwm yn garreg filltir arbennig i’r band ac yn cadarnhau eu gweledigaeth greadigol ddigyfaddawd, gan blethu’r Gymraeg i’w cerddoriaeth fel offeryn hollbwysig sy’n atseinio ar lefel reddfol. 

“Mae’r defnydd o’r Gymraeg trwy gydol Solas yn teimlo’n naturiol, yn gywir, ac yn angenrheidiol,” meddai Gwenllian Anthony, basydd Adwaith. 

“Roedden ni eisiau i wrandawyr deimlo rhywbeth greddfol ac emosiynol yn y gerddoriaeth, p’un a oedden nhw’n deall pob gair ai peidio.”

Gyda Solas, mae Adwaith hefyd yn torri tir newydd trwy fod y band benywaidd Cymraeg cyntaf i ryddhau albwm ddwbl. 

“Rwy’n teimlo ein bod ni’n hyderus yn ein hunain fel cerddorion, a’n sain, a’r byd rydyn ni eisiau ei greu,” ychwanegai Hollie Singer.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Miliwn’ sydd wedi’i ffilmio a’i olygu gan Rhys Grail: