Mae’r grŵp metal gweithgar o Fangor, CELAVI, yn ôl gyda’u EP newydd sbon, ‘ANIMA’, sydd allan ar 31 Hydref, sef Noson Galan Gaeaf.
Sarah a Gwion sydd y tu ôl i CELAVI ac maent yn plethu dylanwadau metal, goth, diwydiannol, electro a roc i greu sŵn cwbl unigryw.
“Mae’n empowering, yn ffyrnig, ac yn gathartig” eglura Sarah.
“Fel yr enw Lladin am yr enaid, mae ‘ANIMA’ yn EP sy’n gasgliad ymosodol, uchel a gonest o anthemau nu-metal goth, egnïol.”
“Mae gan ‘ANIMA’ ddylanwadau diwydiannol, anime a drum’n’bass” ychwanega Gwion.
“Mae’r EP yn llawn o bangers rymusol, uchel a theilwng o circle-pit craidd metal! Rydym yn falch o fod y band gyntaf nu-metal dwyieithog yng Nghymru.”
Cynhyrchwyd ‘ANIMA’ gan y cynhyrchydd adnabyddus, Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Motörhead, Holding Absence) a bydd fideo cerddoriaeth ar gyfer y trac ‘l o w e r c a s e’ yn dilyn yn fuan.
Dyma’r trac ‘l o w e r c a s e’ o’r EP: