‘Gapelwrs’ yn dynodi atgyfodiad Tai Haf Heb Drigolyn

Mae’r prosiect cerddoriaeth amgen o’r canolbarth, Tai Haf Heb Drigolyn, wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Gapelwrs’. 

Tai Haf Heb Drigolyn ydy prosiect Izak Zjalic o Fachynlleth sydd hefyd yn gyfarwydd fel y prif egni tu ôl i Sachasom, sef enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau’r Eisteddfod yn 2022.

Dechreuodd  Tai Haf Heb Drigolyn yn ystod y cyfnod clo wrth i Izak ddarganfod pa fath o endid yr hoffai ryddhau cerddoriaeth drwyddo. Yn gweithredu trwy safbwynt wleidyddol, mae enw’r prosiect yn cysylltu gyda’r drafodaeth eang am ail gartrefi a gododd yn ystod haf 2020.

Rhoddodd Izak y gorau i’r prosiect wrth iddo ddod yn ddi-ffocws, a dewisodd ganolbwyntio ar ei angerdd am ‘beatmaking’ trwy ryddhau dau albwm ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’ (2022) a ‘GOL EU DY’ (2024) o dan yr enw Sachasom.

Gan fragu y tu ôl i’r llenni, adfywiwyd Tai Haf Heb Drigolyn ar ôl un noson dyngedfennol ym Maes B 2022. Roedd Izak a Simon Richards (drymiwr skylrk.) yn adnabod ei gilydd ers blynyddoedd trwy dudalen gefnogwr black midi ar Facebook, ond wrth iddynt gyfarfod yn y cnawn fe daniodd y syniad o ail-lansio Tai Haf Heb Drigolyn.

Daeth Tai Haf Heb Drigolyn yn brosiect stiwdio a wynebodd sawl rhwystr o ran sain a chyfeiriad ond rhyddhawyd eu sengl ddwbl gyntaf ‘Ionawr / Crancod’ ar ddechrau 2024.

Ychwanegu aelod arall

Wrth i’r prosiect frwydro gyda’r broses gymhleth o gyfuno offer analog a digidol, aeth Izak a Simon at Will Jones (o Canada Works) i’w cynorthwyo. Daeth Will ar unwaith i fydysawd lo-fi Cymraeg Tai Haf Heb Drigolyn a dod i arfer yn gyflym â defnyddio’r recordiwr casét aml-drac, Tascam 424, ac offer analog.

Gydag ychwanegiad Will fel aelod craidd o’r band, buan iawn y daeth eu trydedd sengl ‘Gapelwrs’ i fodolaeth, gan gyfuno sain sampl gyfagos, datgymalog.

“Roedd y darn offerynnol yn cael sawl dylanwad o wahanol reolwyr eraill sy’n defnyddio tâp i recordio fel Gitâr, Datblygu cynnar a’r bandiau Eliffant 6” eglura Will. 

“Sgwenno’n ni’r geiriau yn arddull dychmygol am y sin Gymraeg o safbwynt tair cerddor sy’n siomedig i weld diffyg dychymyg ar draws diwylliant newydd Cymraeg”

Mae Tai Haf Heb Drigolyn ar hyn o bryd yn y broses o gwblhau recordiad o’u halbwm cyntaf, sef casgliad o ganeuon a grëwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.