Cordia wedi ail ffurfio, a rhyddhau sengl

Mae’r cyn enillwyr cystadleuaeth Cân i Gymru, Cordia, wedi ail-ffurfio ac mae eu sengl newydd allan ers 11 Medi.

Ffurfiwyd Cordia yn wreiddiol rhyw ddegawd yn ôl er mwyn cystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau BBC Radio Cymru. Cyrhaeddodd y band rownd derfynol Brwydr y Bandiau cyn mynd ati i gipio teitl Cân i Gymru yn 2016 gyda’r gân ‘Dim ond Un’.  

Aeth y band ymlaen i ryddhau’r EP pump trac ‘Tu ôl i’r Llun’ ar ddiwedd 2016 oedd yn cynnwys y gân ‘Dim ond Un’. 

Cordia ydy Ffion Elin Davies, Ffion Wynn Davies a Manon Fflur Williams ac ar ôl cyfnod hir o beidio perfformio gyda’i gilydd, fe benderfynodd y dair i ail-ffurfio’r band yn gynharach yn y flwyddyn eleni. 

Dywed y dair eu bod wedi eu dylanwadu arnynt gan yr holl artistiaid benywaidd sy’n cyfansoddi ac yn canu yn y Gymraeg ar hyn o bryd gan restru Eädydd, Mared ac Adwaith fel esiamplau o’r merched sydd wedi cael llwyddiant ac ysbrydoli merched yn ddiweddar.  

‘Sylw’ ydy enw’r sengl newydd gan y triawd sydd allan 11 Medi ac sydd wedi’y chynhyrchu gan Rhys Jones yn Stiwdio Ty’n Rhos ym Mryngwran. 

Mae cynlluniau gan Cordia i gigio’n fuan ac maent hefyd wedi awgrymu bod mwy o gerddoriaeth ar y ffordd.