Mae’r DJ a’r cynhyrchydd, Vampire Disco, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Hapus’.
Vampire Disco ydy prosiect diweddaraf y cerddor Alun Reynolds, sydd wedi arbrofi gydag amryw brosiectau cerddorol yn y gorffennol gan gynnwys Panda Fight a JJ Sneed – pwy all anghofio’r ‘air sax’ enwog eh?
Nod y trac yw dod â’r Gymraeg i flaen y gad mewn genre lle mae hi’n aml yn brin o ran cynrychiolaeth. Mae’r trac hwn yn adlewyrchu ei gariad at ei iaith a’i ddiwylliant, gan fanteisio ar ei gefndir amrywiol mewn cerddoriaeth electronig i greu sain sydd mor unigryw â’i enw.
“Mae’n amser i’r Gymraeg fod yn rhan o’r sgwrs byd-eang yng ngherddoriaeth electronig” meddai Disco Fampir.
“Trwy gynnwys yr iaith mewn caneuon modern a chyfoes, rwy’n gobeithio dangos bod y Gymraeg yn berthnasol ac yn gallu ffynnu yn unrhyw genre, hyd yn oed y rhai mwyaf arbrofol.”
Yn cyfuno curiadau egnïol ac alawon llachar, mae ‘Hapus’ yn ddathliad o falchder diwylliannol ac yn anelu at newid tirlun cerddoriaeth electronig Cymraeg.
“Mae’r Gymraeg yn iaith hardd a llawn egni, ac roeddwn i eisiau cyfleu hynny mewn genre sy’n ymwneud ag emosiwn a theimlad,” meddai Vampire Disco.
“Mae cerddoriaeth trance yn adnabyddus am ei allu i ennyn teimladau pwerus, a gyda ‘Hapus’, rwy’n gobeithio gwneud i bobl deimlo’n gysylltiedig â Chymru, p’un a ydyn nhw’n deall yr iaith ai peidio.”
Bydd ‘Hapus’ ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol.