Mae’r band o Gaerdydd, Angel Hotel, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘I Can Find You if I Look Hard Enough’.
Band indi-electronig o Gaerdydd ydy Angel Hotel sydd wedi creu cryn argraff ers dod i’r amlwg gyntaf yn 2021 gyda’u fersiwn o’r gân ‘Torra fy Ngwallt yn Hir’ gan Super Furry Animals oedd ar yr albwm aml-gyfrannog elusennol Corona Logic.
Ers hynny maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o senglau yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd wedi derbyn croeso cynnes. Wedi’i drwytho gydag egni anthemig yr 80au a thro modern, mae’r band dwyieithog yn barod i wneud eu marc yn lleol a thu hwnt.
Mae’r albwm yn dilyn llwyddiant eu senglau poblogaidd, ‘Automobile’ a ‘Rumpy Pumpy‘, sydd eisoes wedi ennill canmoliaeth yn y diwydiant yn ogystal â denu cefnogwyr ymroddedig.
Mae’r traciau wedi sefydlu Angel Hotel fel band cyffrous yn y sin gerddoriaeth indi, gan asio melodïau keytar heintus gyda gitârs pwerus a lleisiau swynol Siôn Russell Jones.
Mae eu gallu i lifo’n rhwydd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ychwanegu dyfnder diwylliannol arbennig i’w cerddoriaeth, gan adlewyrchu eu gwreiddiau yng nghymuned gerddoriaeth fywiog Caerdydd. Mae’r dwy-ieithrwydd cyfforddus hwn i’w weld yn glir unwaith eto ar yr albwm newydd.
Wedi’i recordio gyda’r cynhyrchydd Tom Rees o’r band Buzzard Buzzard Buzzard, mae ‘I Can Find You If I Look Hard Enough’ yn cyfleu’r egni amrwd a’r emosiwn sydd wedi dod yn ddisgwyliedig gan berfformiadau byw Angel Hotel. Yn adnabyddus am eu presenoldeb arbennig ar lwyfan, mae’r band wedi datblygu enw da fel un o berfformwyr byw mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd.
Un o’r caneuon cyfarwydd sydd ar yr albwm ydy ‘Superted’ a ryddhawyd fel sengl ddwy flynedd yn ôl. Dyma’r fideo a gyhoeddwyd ar Lŵp bryd hynny: