Rydym yn hen gyfarwydd â gweld artistiaid yn creu cynnyrch hyrwyddo – crysau T, sgarffiau, mygs a hetiau bobyl di-rif, ond mae’r band rap Gwcci wedi mynd ati i greu rhywbeth bach mwy unigryw na’r hen grys T cotwm traddodiadol, sef crys pêl-droed.
Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â Gwcci yn ymwybodol bod y rapwyr dirgel yn ffans o bêl-droed. Yn wir, yn ogystal â’u masgiau arferol, roedd yr aelodau’n gwisg crysau pêl-droed retro yn eu fideo ar gyfer y gân ‘Hotel’, sef enillydd gwobr ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau 2024’ Gwobrau’r Selar.
A hwythau wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Gafr’, yn ddiweddar, mae’r band wedi mynd ati i nodi hynny trwy greu crys pêl-droed mewn cydweithrediad â chwmni kit annibynnol Icarus.
Mae’r crys wedi’i ysbrydoli gan dîm pêl-droed Cymru, ac mae hynny’n amlwg iawn yn y cynllun.
Label Recordiau Bica sy’n gyfrifol am gynnyrch Gwcci, ac mae enw’r label yn ymddangos fel noddwr ar frest y crysau pêl-droed newydd.
Bydd y rhai craff wedi sylw bod aelodau Gwcci yn gwisgo’r crysau yn eu gig diweddar ym Maes B, Steddfod Pontypridd eleni.
Roedd modd rhag archebu’r crys hyd nes ddydd Sadwrn 31 Awst.