Bedydd tân: sgwrs gyda TewTewTennau

Un o’r bandiau hynny sydd wedi creu cryn argraff yn ystod hanner cyntaf 2024 ydy TewTewTennau. Gruffudd ab Owain sydd wedi bod yn sgwrsio gyda nhw ar ran Y Selar

Dw i wastad yn wyliadwrus wrth ddefnyddio cliché fel “ffrwydro ar y sîn”, ond dw i’n meddwl ei fod o’n deg ei ddefnyddio yng nghyd-destun TewTewTennau.

Yn haf 2023, mwya’ sydyn, mi ddechreuodd y criw o Lansannan greu cryn argraff wrth gigio’n gyson yn lleol a thu hwnt, cyn hoelio’n sylw ni i gyd wedi iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan.

Roedd hwn yn hwb cychwynnol pwysig i’r band, fel eglura Eban Williams, y prif leisydd.

“Roedd Brwydr y Bandiau yn gyfle gwych ac yn ffordd mor dda i ni ddod i’r amlwg yn y sîn roc Gymraeg.

“Roedd y gefnogaeth a gawsom gan bawb a ddaeth i wylio ni yn eitha nuts. ’Da ni prin di stopio ers hynny i ddweud y gwir!”

Daeth hi’n amlwg iawn wedyn eu bod nhw’n teilyngu lle ymysg yr artistiaid i gadw llygad barcud arnyn nhw yn ystod 2024.

Rhyddhau’r albwm cyntaf

Dyna mae’r Selar wedi’i wneud, a’u dilyn nhw wrth iddyn nhw barhau i gigio ledled y wlad, yn ogystal â rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Sefwch Fyny’. Gellir darllen adolygiad o’r record yn rhifyn haf 2024 cylchgrawn Y Selar.

Mae’r albwm yn gyfanwaith sy’n driw i’r naws a’r sain sefydlwyd wrth iddyn nhw ryddhau cyfres o senglau poblogaidd, gan gynnwys ‘Rhedeg Fyny’r Mynydd’ a ‘Ras y Llygod, yn ystod y Gwanwyn.

Serch hynny, mae’n deg dweud eu bod nhw’n barod i ymestyn ffiniau’r arddull honno, fel mae Eban yn ei esbonio wrtha’i…

“’Da ni wrth ein boddau yn chwarae efo gwahanol syniadau… o ganeuon indie pop i rap a rock.

“Mae’r [albwm] yn gymysgedd o genres, ond ’da ni’n licio meddwl hefyd bo’ gennym ni fel band sŵn eitha’ unigryw sy’n treiddio drwadd ym mhob cân, boed hwnnw yn gân arafach fel ‘Byd yn dal i droi’ neu yn un llawn bywyd fel ‘Y don o Tan y Fron’.”

Yr ifanc a dybia 

Maeaelodau’r band yn eu hugeiniau cynnar ac ond wedi sefydlu ers ychydig flynyddoedd, felly mae’n dipyn o gam i ryddhau albwm mor fuan yn eu gyrfa gerddorol. Ond yn ôl Eban, roedd hynny’n beth naturiol i’w wneud.

“Rhyddhau albwm yn gynnar oedd ein nôd ni fel band. Gan ein bod ni’n cael mwy a mwy o gigs, roedden ni’n teimlo fel bod hi’n amser i ni ryddhau albwm.”

TewTewTennau
TewTewTennau (Llun: Nia Teifi Rees)

Ac ydy bod yn ifanc ar y sîn yn fantais? “Heb os! Mae ‘na gymaint o gerddorion anhygoel wedi dod o’n blaenau ni yn Nghymru, ac mae eu dylanwad nhw dal i fod mor amlwg ar y sîn roc Gymraeg.

“Mae hi’n mor braf gweld cymaint o fandiau ifanc, newydd, yn dod i’r amlwg bob blwyddyn, ac mae hi’n fraint cael bod yn eu plith nhw.”

Un cwestiwn dwi’n hoff o’i ofyn i artistiaid, yn enwedig rhai ifanc, ydy pa mor normal ydy canu’n Gymraeg iddyn nhw, a chymharu profiad gwahanol ardaloedd. Ydy canu’n Gymraeg yn normal i TewTewTennau? “Dwi’n teimlo fel bod canu yn y Gymraeg yn teimlo yn lot fwy naturiol i ni na chanu yn Saesneg.”

Dydyn nhw ddim yn barod i gyfyngu eu hunain chwaith.

“Mae gennym ni un neu ddau o ganeuon Saesneg ‘da ni’n fwynhau chware, ’da ni’n gobeithio recordio nhw ar gyfer ein ail albwm.”

Sôn am ail albwm yn barod, felly?

“’Da ni’n gweithio ar un erbyn hyn, ac methu aros i bawb glywed beth sydd i ddod!”

Ac yn y cyfamser, maen nhw’n gobeithio cael parhau ar yr un trywydd llewyrchus y maen nhw wedi’i ddilyn hyd yn hyn. “Os ’da ni’n lwcus, y plan ydi cario mlaen i gigio dros Gymru a dal i ryddhau caneuon mor aml â fedrwn ni.”

 

Lluniau: Nia Teifi Rees

Gadael Ymateb