Mae ffryntman y bandiau cyfarwydd o ardal Ffestiniog, Jambyls ac Yr Oria, yn ôl gyda phrosiect unigol newydd.
Garry Hughes ydy’r gŵr fu’n arwain y bandiau hynny oedd yn adnabyddus am eu caneuon bachog ac anthemig ar adegau.
Nawr mae Garry wedi ail-gydio yn ei gerddoriaeth ac wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 30 Awst.
‘Golau Stryd’ ydy enw’r trac newydd ganddo ac wrth gydnabod ei fod wedi bod yn dawel yn gerddorol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’n teimlo bod y seibiant wedi bod o fudd iddo.
“Dwi wedi cychwyn project bach newydd fel artist unigol bellach” meddai Garry.
“Dwi di bod yn ddistaw, ond dwi o’r diwedd wedi ffeindio’r amser i fynd fewn stiwdio ar ôl seibiant bach, wel….mawr.
“Dwi heb fod yn ddiog yn ystod yr amser yma, dwi di bod yn brysur yn sgwennu caneuon a ma’r brêc ma di neud massive o lês dwi’n meddwl. Ma di rhoi amser i fi feddwl mwy am yr ochr sgwennu, ac adlewyrchu ar be dwisho neud a just yn syml, i ista lawr, peidio brysio a just trio sgwennu caneuon da cyn recordio.”
EP ar y ffordd
Dywed Garry bod teimlad nostaljic i’r trac newydd ganddo. Mae’r gân yn trafod ei hanes pan oedd yn iau, deinameg teulu, y profiad o dyfu i fyny ar stad cyngor a’r hen ddywediad mae’n defnyddio fel bachyn i’r gân sef bod ‘rhaid mynd adra’n syth pan ddaw golau stryd’.
Y newyddion da pellach yw y gallwn ddisgwyl mwy o gerddoriaeth gan Garry yn y dyfodol agos, gydag addewis am EP ganddo fis Tachwedd eleni.
Dywed Garry ei fod wedi bod yn ffodus i dderbyn cefnogaeth ariannol gan asiantaeth Eos fel rhan o’u cronfa nawdd eleni, a bod hyn wedi ei ganiatáu i recordio a rhyddha’r EP.