Cyhoeddi gig lansio ail albwm Adwaith

Ar ôl cyhoeddi dyddiad rhyddhau eu halbwm nesaf wythnos diwethaf, mae Adwaith nawr wedi datgelu manylion gig lansio arbennig yng Nghaerfyrddin fis Chwefror.

Wrth ryddhau eu sengl newydd, ‘Miliwn’, wythnos diwethaf, fe fanteisiodd y triawd o Gaerfyrddin ar y cyfle i gyhoeddi y byddai eu halbwm newydd, ‘Solas’, yn cael ei ryddhau ar 7 Chwefror 2025.

Bellach mae’r band wedi cyhoeddi manylion gig lansio yn eu tref leol, a hynny yn Theatr y Lyric ar 12 Chwefror. 

“Hapus iawn bod ni’n chwarae ein sioe cartref mwyaf yn theatr y Lyric, Caerfyrddin” meddai’r band wrth ddatgelu’r newyddion ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Bydd Emyr Sion, sy’n gyfarwydd hefyd fel drymiwr Los Blancos, yn ymuno fel cefnogaeth ar y noson.

Mae tocynnau’r gig ar werth nawr ar wefan Theatrau Sir Gâr