Ail-wasgu albwm Dos Bebés Rogue Jones

Mae label Recordiau Libertino wedi cyhoeddi y bydd ail albwm Rogue Jones, Dos Bebés, yn cael ei ail-wasgu a bod modd rhag archebu copïau nawr.

Rhyddhawyd Dos Bebés yn wreiddiol ym mis Mawrth 2023, ac yr hydref canlynol fe gyhoeddwyd mai’r albwm oedd enillydd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023.

Ers hynny, dywed Libertino bod y galw am gopïau o’r record wedi bod yn fawr, ac o ganlyniad maen nhw wedi gwasgu’r albwm o’r newydd.

Mae’r fersiwn newydd yn un nifer cyfyngedig ac arbennig iawn sydd ar feinyl mics-eco, sef feinyl sy’n cael ei greu o ddeunyddiau wedi’u hail-gylchu.

Mae modd rhag-archebu copïau o’r fersiwn newydd ar safle Bandcamp Rogue Jones nawr.