Mae’r artist cyffrous, Mali Hâf, yn ôl gyda’i sengl newydd sbon, sydd allan ar label Recordiau Côsh.
‘Esgusodion’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd allan ganddi ers dydd Gwener 12 Gorffennaf, ac oedd yn cael ei amseru’n fwriadol wrth iddi baratoi ar gyfer set yng ngŵyl Tafwyl dros y penwythnos.
Ar flaen y gad unwaith eto gyda chynhyrchu slic gan Minas, “mae’r gân fel petai ei bod yn bodoli o’r cyfnod a fu.”
“Wedi blino ar glywed esgusodion? Esgusodion gan wleidyddion, esgusodion dros ladd a rhyfel? Esgusodion gan y rhai rydych yn ei garu? Esgusodion amddiffynnol chi’ch hunain?” Gallwch eu clywed ym mhobman, ond os gallwn weld heibio nhw, a bod yn driw i’n dewrder mewnol, bydd rhyddid a heddwch yn dilyn” meddai Mali
“Gobeithio gallwch chi glywed hynny yn y gân hon. Rhwystredigaeth wedi’i gyfleu drwy hiwmor a hwyl tafod yn boch!”