Mae trefnwyr gŵyl Llanast Llanrwst wedi cyhoeddi prif fanylion y digwyddiad eleni.
Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol ers tro byd bellach yn bennaf dan arweiniad Menter Iaith Llanrwst. Yn wir, roeddent yn dathlu 20 mlynedd ers y Llanast Llanrwst cyntaf yn 2023.
Cyhoeddwyd wythnos diwethaf mai dyddiadau’r digwyddiad eleni ydy penwythnos 29 Tachwedd i 1 Rhagfyr.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi enwau nifer o’r artistiaid sy’n perfformio, ac mae rhain yn cynnwys Meinir Gwilym, Morgan Elwy, Hafna, Jambyls, Tara Bandito, Cwtsh, Huw Aye Rebals, Ta-waeth, a’r band lleol o Ddyffryn Conwy, Yr Anghysur.
Bydd enwau mwy o artistiaid a manylion pellach am yr ŵyl yn dilyn yn fuan.